Theatr y Gymraes : Byth Rhy Hwyr, Mefus, Mab
2020
Online
E-Book
Zugriff:
Yn ôl ysgolheigion ffeministaidd mae tystiolaeth bendant ynglŷn â'r ffordd y mae cyfraniad menywod i ddrama, theatr a pherfformiad yn aml iawn yn cael ei hepgor, ei'ysgrifennu allan', ei osod ar yr ymylon yn ddiwylliannol a'i wneud yn anweledig. Ac mae'n ffaith nad oes fawr o astudiaeth o hanes y theatr yng Nghymru sydd naill ai'n cydnabod neu'n cynrychioli gwaith ysgrifennu menywod ar gyfer y theatr Gymraeg. Yn y cyd-destun hwn, mae'r gyfrol arloesol hon yn ymdrech i lenwi'r bylchau a chyfoethogi'r hanes trwy ddogfennu rhai o destunau cwmni theatr Y Gymraes sydd heb eu cyhoeddi, eu gosod yn fras yng nghyd-destun theatr yng Nghymru yn y 1990au, ac ystyried hefyd rai ymatebion i'r gwaith. Yn anorfod ac yn anad dim mae'r testunau a'r cyd-destun a roddir iddynt yn cyfeirio at y profiad diwylliannol o fod yn fenyw ac yn Gymraes.
Titel: |
Theatr y Gymraes : Byth Rhy Hwyr, Mefus, Mab
|
---|---|
Autor/in / Beteiligte Person: | Sera Moore Williams |
Veröffentlichung: | 2020 |
Medientyp: | E-Book |
ISBN: | 978-1-912905-31-7 (print) ; 978-1-912905-32-4 (electronic) |
Schlagwort: |
|
Sonstiges: |
|